Toggle language between Welsh and English

Ysgol Bach

Roedd Aber-soch yn cael ei adnabod am flynyddoedd fel pentref ‘yr ysgol bren ac eglwys dun’.

Mae ysgol bach bren Aber-soch, a adeiladwyd yn wreiddiol ar gyfer 23 disgybl, wedi bod yng nghalon y gymuned ers mis Chwefror 1924. Adeiladwyd yr ysgol yn dilyn ymgyrch gan ŵr busnes lleol, Abel Williams, a gredai fod y daith ddwy filltir a hanner i Ysgol Sarn Bach yn ormod i blant bach gerdded. Sicrhaodd gymorth deulu cyfoethog Winterbotham, a ddeuai yma ar wyliau a chyfrannu’r tir ar gyfer yr ysgol a’r neuadd bentref.

Archive image of Abersoch showing large Victorian houses

Roedd teulu’r Minoprio, masnachwyr cotwm o Lerpwl, o ogledd yr Eidal yn wreiddiol, hefyd yn deulu blaenllaw a oedd yn ymwelwyr rheolaidd â’r pentref.

Cyfrannodd y deunyddiau adeiladu a goruchwylio’r gwaith adeiladu. Adeiladwyd Capel y Graig yn 1904, y Clwb Golff yn 1908, Neuadd y Pentref yn 1914 a Chlwb Hwylio De Sir Gaernarfon (SCYC) yn 1925. Adeiladwyd llawer o dai mawr y Stryd Fawr dros y deng mlynedd ar hugain nesaf, nifer gan gapteiniaid môr a osodai nhw i ymwelwyr yn ystod yr haf. Yn ogystal, defnyddiwyd dyluniad amlwg yr ysgol o goed yn y coetsiws gyferbyn â thŷ haf teulu’r Minoprio, Haulfryn House.

Teulu’r Minoprios ddatblygodd parc gwyliau’r Warren. Mae’n rhan o Grŵp Haulfryn erbyn hyn, sy’n rheoli parciau carafanau trwy wledydd Prydain; fe’i enwyd ar ôl tŷ gwyliau gwreiddiol y teulu yn Aber-soch.

Codi a gostwng wnaeth niferoedd yr ysgol dros y blynyddoedd nesaf. Cai ei hadnabod fel yr ysgol ‘fyny a lawr’ a wynebodd fygythiadau cau sawl gwaith.

Fodd bynnag, pan leihaodd y niferoedd i ddim ond saith, penderfynodd Cyngor Gwynedd na ellid cyfiawnhau ei chadw ar agor. Ym mis Rhagfyr 2021, yn dilyn ymgyrch o frwydro caled, caeodd Ysgol Aber-soch ei drysau am y tro olaf. Symudodd ei disgyblion i Ysgol Sarn Bach.

Roedd ei chau yn ergyd drom i lawer ond, profodd yr ymateb cadarnhaol fod gan Aber-soch gymuned i fod yn falch ohoni, â’r gallu i drefnu ymgyrch hynod effeithiol. Ac mae’r feddylfryd o newid pethau a’r cydweithrediad a agorodd yr ysgol yn 1924 yn dal yn fyw, gan mlynedd yn ddiweddarach.

Archive image of children outside Ysgol Abersoch

Cymryd rhan!

Pan agora Menter Rabar bydd yn cynnig llu o gyfleoedd dysgu, gweithio, cymdeithasu, gwirfoddoli a chymryd rhan. Yn y cyfamser, rydym yn croesawu unrhyw gynnig o gefnogaeth, cymorth â digwyddiadau/gweithgareddau codi arian neu sgiliau proffesiynol neu gyngor.

DIOLCH!​

Rydych chi wedi cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, byddwn mewn cysylltiad yn fuan.