Cymryd rhan
Rydym yn dal i dderbyn rhoddion i gefnogi ein cynlluniau adnewyddu.
Bydd eich haelioni yn helpu sicrhau bod adeilad poblogaidd Ysgol Abersoch wrth galon y gymuned unwaith yn rhagor.
Pan fydd ar agor, bydd Menter Rabar yn cynnig llawer o gyfleoedd dysgu, gweithio, cymdeithasu, gwirfoddoli a chymryd rhan.
Yn y cyfamser, rydym yn croesawu pob gefnogaeth, help gyda’n digwyddiadau codi arian, sgiliau neu gyngor proffesiynol.
Rydym hefyd angen eich mewnbwn ar ba fath o weithgareddau a digwyddiadau y dylid eu cynnal yn yr adeilad wedi’i adnewyddu.
Cysylltwch â Helen Clifton ar: menter.rabar@gmail.com
I gyfrannu:
- Lawrlwythwch y ffurflen gais
- Llenwch y ffurflen gais a’i e-bostio i: menter.rabar@gmail.com
- Neu anfonwch hi a’ch siec i’r cyfeiriad ar y ffurflen neu drwy daliad BACS.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â: menter.rabar@gmail.com