Treftadaeth lleol, yr iaith Gymraeg a diwylliant yn rhan ganolog o’n prosiect
Ond, ein amcan – yng ngeiriau hyrwyddair yr ysgol ydi, ‘Hwylio i’r Dyfodol’ â hyder newydd a balchder yn ein cornel fach arbennig o Gymru.

Ein amcanion
Ein cynlluniau
Ar Mawrth 11 eg, 2025, penderfynodd Cyngor Gwynedd drosglwyddo prydles y gyn-ysgol i Fenter Rabar ar gost o ddim ond
£1 y flwyddyn am y 99 mlynedd nesaf. Drwy ymgynghori â’r gymuned, rydym wedi datblygu cynlluniau i drawsnewid y gyn-ysgol yn
ganolfan fenter, cyfleuster desg boeth ac unedau busnes i’w rhentu; arddangosfa dreftadaeth barhaol; caffi, gardd gymunedol a gofod digwyddiadau a gweithgareddau amlbwrpas.
Mae’r grŵp wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru, trwy’r Cronfa Ffyniant Gyffredin, Cwmpas, Menter Môn, Adra, Sefydliad Cymunedol Cymru,
ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn i wireddu y cynlluniau hyn. Bydd y cyfnod adnewyddu yn dechrau fuan yn haf 2025.

Ionawr 2023
- Dwy flynedd ar ôl i’r ysgol gau – ac o ganlyniad i gryn bwyso o’r gymuned – Cyngor Gwynedd yn cynnig lesio’r ysgol i’r gymuned, yn hytrach na’i gwerthu ar y farchnad agored.
- Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod y cynnig.
- Fe’i mynychwyd gan dros gant o bobl a mynegwyd barn gref ar beth ddylai ddigwydd nesaf.
- Yn dilyn hyn, ffurfiwyd grŵp i barhau â’r trafodaethau – Menter Rabar.

Chwefror 2023
- Cyngor Gwynedd yn cynnig prydles hir-dymor mewn egwyddor i Fenter Rabar ar gyfer adeilad y cyn-ysgol.
- Daw cynnig y Cyngor ag amodau fod Menter Rabar yn cyflwyno cynllun busnes llawn i amlinellu sut defnyddid yr adeilad i ddarparu buddion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol i’r gymuned.

Ebrill 2023
- Lansiodd Menter Rabar arolwg a’i ddosbarthu’n eang o fewn y gymuned.
- Derbyniwyd ymatebion o gyfanswm o 289 cartref, busnes a sefydliad.
- Cefnogodd 95% gynnig Cyngor Gwynedd i drosglwyddo adeilad yr ysgol gael ei ddatblygu er budd y gymuned.
- Dangosodd 53 atebwr ddiddordeb cynorthwyo â’r fenter drwy wirfoddoli, darparu cyngor a gwasanaethau proffesiynol.
- Y syniadau mwyaf poblogaidd ar gyfer yr adeilad oedd meithrinfa ddydd, gardd gymunedol, canolfan hanes a threftadaeth a chaffi.
- Dyfarnwyd nawdd o £12,430 i’r grŵp gan Cwmpas i gomisiynu cynllun busnes a chynlluniau pensaernïol.

Gorffennaf 2023
- Cysylltwyd ag Uned Gofal Plant Cyngor Gwynedd am arweiniad pellach i’r syniad o gynnal meithrinfa yn yr ysgol.
- Cynhaliwyd arolwg manylach ac ymatebodd 27 rhiant gyda’r mwyafrif yn adnabod yr angen lleol am ofal plant ar ôl ysgol a darpariaeth gofal plant yn ystod gwyliau.
- Comisiynodd Menter Rabar bensaer i ddylunio dewisiadau o ganlyniad i’r syniadau hyn.

Hydref 2023
- Mynychodd dros hanner cant o bobl sesiwn galw mewn i arddangos y cynlluniau drafft ar Hydref 25ain; cwblhawyd holiadur gan 67 o bobl yn gymysgfa o breswylwyr, grwpiau/sefydliadau lleol, busnesau a sefydliadau sector cyhoeddus lleol.
- Nododd 82% o’r atebwyr y buasai’r cynlluniau ar gyfer adeilad Ysgol Aber-soch yn darparu buddion i’r gymuned gyfan yn economaidd, cymdeithasol ac/neu amgylcheddol a gwneud y defnydd gorau o’r ased.
- Dyfarnwyd £9,850 i Menter Rabar o Gronfa (SPF) i dalu am gostau cyfreithiol a’r pensaer.

Tachwedd 2023
- Cyflwyno’r cynllun busnes i Gyngor Gwynedd i’w ystyried.

Ebrill 2024
- Derbynia Cyngor Gwynedd y cynllun busnes a chynnig prydles hir mewn egwyddor o bunt y flwyddyn (£1.00) am y 99 mlynedd nesaf.
- Dibynna trosglwyddo’r brydles ar allu’r grŵp i godi digon o arian i adnewyddu’r adeilad erbyn Rhagfyr 15fed, 2024.
- Cofrestru’r grŵp fel Cwmni Buddiant Cymunedol drwy Warant.

Mai 2024
- Lansio ymgyrch dorfol £50,000 at adnewyddu yn y pentref.

Awst 2024
- Cynhaliwyd cyfres o weithgareddau codi arian a dyddiau agored gan y Pwyllgor yn ystod mis Awst â’r bwriad o ymgysylltu ymwelwyr ag Aber-soch trwy’r tymor gwyliau.
- Bu gwirfoddolwyr yn chwynnu, glanhau, paentio a phlannu ym muarth ac adeilad yr ysgol, gan drawsnewid yr ysgol segur yn ofod deniadol.
- Derbynia Menter Rabar sylw cadarnhaol ar y cyfryngau - S4C, BBC Wales TV, radio, ar-lein ac yn y wasg leol megis Llanw Llŷn.
- Derbyniwyd nawdd o £19,720.00 at ddatblygu’r ganolfan dreftadaeth, costau marchnata a gwefan gan Grymuso Gwynedd.

Medi 2024
- Menter Rabar yn dechrau datblygu syniadau ar gyfer yr arddangosfa dreftadaeth. Cynhaliwyd gweithdai ag aelodau Grŵp Treftadaeth Plwyf Llanengan a disgyblion Ysgol Botwnnog.
- Cododd Ras Dywod Fflach Lamp Aber-soch Life ar Fedi 13eg £1,000 at Fenter Rabar.
- Darlledwyd y digwyddiad, a’r prosiect, ar raglen Heno ar S4C.
- Cyflwynwyd y cais cynllunio, ynghyd â cheisiadau nawdd am tua £700,000.

Hydref 2024
- Enillodd Menter Rabar gategori ‘Menter Newydd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Mentrau Cymunedol Menter Môn.