Bydd y ganolfan yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth ddiwylliannol, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Caffi Cymunedol
Ar agor drwy gydol y flwyddyn, bydd y caffi yn le perffaith ar gyfer cymdeithasu ac ymgysylltu â’r gymuned.
Gofod y Gymuned
Gofod cwbl ddwyieithog yn gweithredu fel catalydd i greu cymuned gref a bywiog yn Abersoch.
Unedau Menter
Bydd gennym bump uned fenter i’w gosod i fusnesau lleol, a fydd mewn cynwysyddion llongau wedi’u haddasu’n arbennig.
Gardd Gymunedol
Gardd fywiog sy’n galluogi’r gymuned i gyfrannu at amgylchedd lleol iachach.
Cymryd rhan!
Pan agora Menter Rabar bydd yn cynnig llu o gyfleoedd dysgu, gweithio, cymdeithasu, gwirfoddoli a chymryd rhan. Yn y cyfamser, rydym yn croesawu unrhyw gynnig o gefnogaeth, cymorth â digwyddiadau/gweithgareddau codi arian neu sgiliau proffesiynol neu gyngor.
Yn enwog am ei olygfeydd arfordirol godidog a’i hawyrgylch hamddenol, mae Abersoch yn leoliad poblogaidd i bobl sy’n mwynhau chwaraeon dŵr, diolch i’w bae cysgodol.
Gyda’i golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a mynyddoedd Eryri yn y pellter, mae Abersoch yn berl go iawn yng Ngogledd Cymru.