Ystafell Dreftadaeth
Mae’r Ystafell Dreftadaeth yn ofod sy’n dathlu hanes, diwylliant a hunaniaeth Plwyf Llanengan. Bydd yr arddangosfa yn dod â chasgliadau, ffotograffau a straeon lleol ynghyd, gan arddangos datblygiad y plwyf drwy’r cenedlaethau. Mae amrywiaeth y cynnwys yn ymestyn o ddigwyddiadau hanesyddol o’r môr a’r tirwedd sy’n siapio’r ardal, gan adlewyrchu hefyd ar brofiadau ac addysg disgyblion drwy’r oesoedd.

Darganfod ein hanes a’n treftadaeth
Wrth grwydro’r arddangosfa, bydd modd i bawb drochi eu hunain yn hanes a threftadaeth y plwyf, gyda digon o gyfleoedd i ddysgu drwy brofiadau ymarferol a gweithgareddau rhyngweithiol. Mae’n gyfle i glywed yr iaith Gymraeg a dod i adnabod unigolion y fenter wrth wrando ar straeon am uchafbwyntiau a heriau trigolion lleol.