Gofod Cymunedol

Mae gofod cymunedol Menter Rabar yn estyniad o Caffi Rabar, gofod sydd yn cynnig lle croesawgar a hyblyg i’r gymuned weithio, dysgu, rhannu syniadau a chreu. Mae’r gofod yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer gweithdai, digwyddiadau, grwpiau lleol, sesiynau datblygu sgiliau a chefnogaeth gymunedol. Mae’n le hygyrch ac addas ar gyfer pob oedran, gan alluogi unigolion, grwpiau a busnesau bach i ddefnyddio’r lle mewn ffordd sy’n gweddu i’w hanghenion.

Cryfhau ein cymuned

Mae’r gofod yn meithrin cysylltiadau cryf rhwng trigolion ac annog cydweithio ar brosiectau sy’n cryfhau’r gymuned ac hybu lles. Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn greiddiol i’r Fenter yn o gystal a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli a gofod canolog, cynnes a chroesawgar i bawb. 

Ein Tenantiaid

Crochenwaith Lily Brown

Mae Lily yn creu crochenwaith wedi’i wneud â llaw sydd wedi ei ysbrydoli gan natur. Mae ei huned yn cynnwys stiwdio a siop, a bydd yn dysgu amrywiaeth o weithdai crochenwaith.

Kin & Co

Mae Kin & Co yn cynnig casgliad o anrhegion, blodau wedi’i sychu a chelfi i’r cartref sy’n adlewyrchu cariad at ddyluniad prydferth syml sy’n ysgogi mwynhad dydd i ddydd yn y cartref. Cynaliadwyedd sydd wrth wraidd ein gwaith gan ganolbwyntio ar gynnyrch lleol wedi’i greu trwy law mewn modd moesegol lle bo posib.

Another Coast Interiors

Dylunio cartrefi a busnesau hardd gyda naws arfordirol. Cynlluniau wedi’u dylunio’n greadigol, eu cynllunio’n fanwl a’i gweithredu’n mewn modd safonol. Gwasanaethau ar gyfer cleientiaid preswyl a masnachol, gan gynnig profiad hollol ddi-staen yn ystod eich proses adnewyddu neu ailgynllunio.

Ei Henaid

Gofod arbennig lle ceir cyfle i arafu, meddalu ac ymlacio. Mae Laura yn cynnig ystod o driniaethau tylino a sesiynau Reiki sydd yn llonyddu ac tawelu’r enaid, corff a’r meddwl.

Em x Studio

Hunaniaeth greadigol Emily Barnes yw Em x Studio, artist aml-gyfrwng sydd wedi’i ysbrydoli gan fywyd glan y môr, golygfeydd o’r awyr a hiraeth ac antur.

Tex Decor

Rheolwr Prosiectau sy’n arbenigo mewn goruchwylio prosiectau adeiladu & adnewyddu. Adnewyddu, Estyniad, Adeiladau, Gofodau Masnachol. Llunio’r tîm perffaith a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth o’r dechrau i’r diwedd.

DIOLCH!​

Rydych chi wedi cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, byddwn mewn cysylltiad yn fuan.